Cychwyn efo'r surop. I mewn i'r sosban efo'r siwgr, mêl, 500ml o ddŵr a sudd lemwn, dod â fo i'r berw am 20 munud da yna gadael iddo oeri - ma'n bwysig bod y surop 'di oeri'n llwyr cyn ei roi ar y baklava! Surop poeth = baklava soggy afiach!
Cynhesu'r popty i 175℃.
Taflu'r cnau i mewn i'r prosesydd bwyd a pulsio tan ti efo darnau mân. Cymysgu'r sinamon i mewn.
Toddi'r ghee yn y microwave am 30 eiliad.
Brwsio'r trê efo ghee, yna i mewn 'efo dwy ddalen o filo. Brwsio efo ghee eto ac ailadrodd hyn bedair gwaith.
Ychwanegu llond llaw da o'r cymysgedd cnau yna dwy ddalen o filo, brwsio efo ghee ac ailadrodd hyn am faint bynnag 'da chi isio cyn gorffen 'efo 8 dalen ar y top fel sydd ar y gwaelod (cam 5).
Defnyddio cyllall sharp i dorri'r darnau baklava. Arllwys mwy o ghee yn yr holltau.
I mewn i'r popty am hanner awr da neu tan bod y top yn crispi brown euraidd.
Arllwys y surop dros y baklava yn syth ar ôl iddo ddod allan or popty - bydd angen digon o surop achos bydd y crwst a'r cnau yn amsugno lot ohono!
Gadael iddo oeri lawr i dymheredd 'stafell, heb ei orchuddio, am 4-6 awr.
Dwi'n lyfio serfio a bwyta hwn 'efo hufen tew a dail mintys!
Rysáit gan Chris Roberts a'i westeion arbennig (Bwyd Byd Epic Chris).