Does 'na ddim union amounts yn y jerk yma, go with the flow efo be 'da chi'n licio - dwi'n licio hi'n BOETH!
rhosmari ffres
teim ffres
halen môr
aeron pimento sych / 'allspice'
tsili scotch bonnet
shibwns
nytmeg cyfan ffres
zest a sudd leim
sinsir ffres
ewin garlleg wedi'u plicio
sinamon mâl
mêl rhedegog
dail bae
persli ffres
tsili cymysg
reis olew olewydd (dim extra virgin)
finegr seidr afal
Bwyd môr:
1kg corgimwch (dwi'n defnyddio prawns mawr, pen a cynffon dal ar, wedi'i 'de-veinio' gan y fishmonger)
rym Cymreig
I orffen:
letys iceberg
saws Marie Rose (cymysgedd o mayo, sos coch, Worcestershire sauce, sudd lemwn, halen môr)
Dull Chris
Marinêd jerk:
Fedrwch chi 'neud y marinâd mewn blendar ond bydd o'n blasu'n lot gwell mewn 'pestle & mortar'! I mewn efo'r dail rhosmari, teim a halen môr a'u malu'n dda cyn ychwanegu'r pimento.
Bash arall, yna i mewn 'efo'r Scotch bonnets a shibwns, gratio'r nytmeg i mewn yna ychwanegu bob dim arall.
Cario 'mlaen i greindio tan bod 'na past tew.
Glug dda o olew olewydd a finegr i orffan.
Bwyd môr:
Marineidio'r prawns am tua hanner awr a 'newch yn siŵr bod pob darn o'r prawns wedi'i orchuddio efo jerk!
Mae jerk ar ei ora ar y BBQ dros tân a mwg, ond bydd o dal yn neis ar y badell yn eich cegin adra.
I mewn efo'r prawns i'r badell poeth, gadael y prawns gael lliw / 'char' da cyn troi nhw. Munud neu ddau bob ochr. Gorffen efo flambé o rum - 'dwi'n defnyddio un Cymreig o Ynys Môn!
I orffen:
Serfio efo letys iceberg wedi'i shredio, saws Marie Rose, a toppio efo'r jiwsys a'r jerk o'r badell. BOOM! '70s mewn powlen - 'sa nain 'di bod yn chuffed.
Rysáit gan Chris Roberts a'i westeion arbennig (Bwyd Byd Epic Chris).