Lisa Fearn
calendar Dydd Iau, 10 Chwefror 2022
Wraps porc kofta
Cynhwysion
- 500g briwfwyd porc
- 2 clof garlleg
- 1 llwy de oregano
- 2 lwy de cwmin
- 1 llwy de halen
- 1 lemwn
- 1 cwpan iogwrt naturiol
- 1 llwy de mint
- 1 llwy de olew olewydd
- bara pitta
- sbigoglys
- tomatos
- ciwcymbr
Dull
- Mewn bowlen fawr, cyfunwch y porc, garlleg, oregano, cwmin, halen a phupur. Yna gratiwch croen y lemwn ac ychwanegwch.
- Cymysgwch yn dda.
- Mewn bowlen fach, cyfunwch yr iogwrt, mint a 1 llwy de olew olewydd a rhowch i un ochr.
- Cymerwch lawn dwrn o'r porc a gosodwch ar skewer i ffurfio siâp selsig. Wnewch hyn sawl gwaith. Dylai fod digon o gynnwys i wneud 8.
- Cynheswch ffrimpan dros dymheredd cymedrol a ffriwch y koftas yn ofalus mewn olew nes maen nhw wedi coginio drwyddo.
- Gwaenwch gyda wraps, salad ac iogwrt.
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Instagram: @lisafearncooks
Twitter: @lisaannefearn
Ryseitiau Prynhawn Da
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio