Torrwch y sgwas yn hanner yn fertigol a thynnwch yr hadau allan.
Gosodwch bapur pobi mewn tin pobi fawr. Gosodwch y sgwas gyda'r hanner wedi torri o dan. Coginiwch am 50 munud neu nes mae'n dyner.
Gadwch i oeri am 15 munud yna crafwch allan ychydig o'r canol, gan adael ffin tua 3cm o amgylch yr ochr. Cadwch y darnau sgwash o'r canol i un ochr.
Ffriwch y winwnsyn a madarch mewn olew.
Ychwanegwch y castanau wedi malî yn ogystal â'r teim. Ychwanegwch y sgwash wedi stwnshio. Gwywch y sbigoglys am rhai munudau a draeniwch mewn hidlwr.
Leiniwch y sgwash efo pupur, yna'r cymysg madarch a sgwash. Gwasgwch lawr. Yna gosodwch haen o sbigoglys. Wnewch yr un peth gyda'r hanner arall. Unwch y ddau ddarn gyda chordyn o'r gegin.
Dychwelwch i'r din pobi.
Pobwch am 20 munud efo gweddill y teim ac ychydig o'r olew pupur.
Wnewch y pesto trwy blitsio y tsili, garlleg, pecanau a phersli at ei gilydd.
Ychwanegwch weddill yr olew pupur a halen a phupur.
Torrwch y sgwash mewn i ddarnau a serfio gyda'r pesto a llysiau neu salad.
Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?