Piliwch y llysiau a thorrwch y llysiau mewn i ddarnau bach.
Rhowch y llysiau ar y tin rostio a choginiwch am 30 i 40 munud.
Gwywch y sbigoglys mewn sosban ar dymheredd cymedrol am ychydig o funudau. Rhowch mewn hidlwr a gadewch i ddraenio. Mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod y sbigoglys yn sych i osgoi'r toes i droi'n feddal.
Rhowch bapur pobi tu fewn i'r hambwrdd.
Rhowch flawd ar yr arwyneb gwaith cyn rhoi'r toes allan.
Dadroliwch y toes croissant a thorrwch 12 darn triongl.
Trefnwch y trionglau mewn i batrwm cylch gyda'r darnau'n gorgyffwrdd i ffurfio seren.
Trowch y llysiau, feta, rhosmari, sbigoglys a chnau pinwydd gyda'i gilydd.
Rhowch y cynnwys yng nghanol y toes. Tynnwch pob triongl toes dros y cynnwys, gan binsio i selio.
Brwsiwch gydag wy ac ychwanegwch parmesan ar ei ben.
Pobwch am 30 i 35 munud ac os mae'n troi'n rhy euraidd ychwanegwch ddarn o ffoil ar ei ben.
Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?