Shane James
calendar Dydd Mawrth, 21 Rhagfyr 2021
Twrci Nadolig
Cynhwysion
- 1 twrci cyfan
- 2 winwns
- 2 moron
- 1 seleri
- 1 bwlb garlleg
- 1 cenhinen
- 1 saets ffres (sage)
- 170g cymysg stwffin
- 250g briwfwyd porc
- dwrn o fricyll sych
- pinsiad nytmeg wedi'i gratio
- halen
- 250g menyn
- 2 clementin wedi haneri
- 1 lemwn
- 2 ciwb stoc cyw iâr
- 2 llwy fwrdd saws llugaeron
- 2 llwy fwrdd blawd plaen
- 1.5 ltr stoc cyw iâr
Dull
- Torrwch y winwns, moron, cennin a seleri yna rhowch yn dun.
- Gosodwch y twrci mewn a stwffiwch y gwagle gyda'r clementins, bwlb garlleg wedi torri yn hanner a'r saets.
- Am y stwffin, cymysgwch y cymysg stwffin efo'r briwfwyd porc, bricyll a 250ml sudd afal. Cymysgwch at ei gilydd a gosodwch mewn gwddf y twrci.
- Meddalwch y menyn nes mae'n hawdd gwasgaru, yna rwbiwch ar draws y twrci i gyd.
- Gratiwch drosodd y nytmeg + croen y lemwn a gwasgarwch drosodd y ciwbiau stoc.
- Lapiwch yn ffoil, a phobwch ar dymheredd ffwrn 180°c am 20 munud i bob 500g o dwrci.
- Tynnwch i ffwrdd y ffoil am y 45 munud olaf i liwio'r croen.
- Ar ôl coginio gadwch yn y ffwrn am o leiaf 1 awr.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rysáit gan Shane James.
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.
Please consider the environment before printing.