Gosodwch y ffrwyth mewn sosban fawr a gorchuddiwch gyda dŵr berw. Mudferwch gyda'r clawr arno am tuag awr nes mae'r ffrwyth yn feddal. Codwch y ffrwythau a draeniwch i ffwrdd y dŵr, gan gadw'r sudd.
Hanerwch y orenau a lemwn a sbydwch allan y ffrwyth (a flesh) a draeniwch unrhyw sudd.
Torrwch i fyny'r croen/peel i'r trwch perthnasol a gwaredwch y lemwn.
Arllwyswch y sudd i gyd mewn sosban fawr. Gosodwch y sieve dros y pan a gwasgwch y pulp mewn i'r sosban.
Ychwanegwch y siwgr (rhwng 1.7kg a 2.2kg) a throwch dros dymheredd isel nes mae'n toddi. Ychwanegwch y croen a dewch y marmaled i'r berw pwynt. Torrwch fyny'r sinsir ac ychwanegwch i'r cymysgedd.
Berwch am 20 – 30 munud nes i'r marmaled "setio". Gadwch i oeri am 5-8 munud.
Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.