I baratoi'r oen, wnewch 3 toriad bach mewn bob coes oen.
Casglwch ddarn o arlleg a rhosmari a gosodwch nhw mewn un o'r toriadau.
I goginio'r coesau oen, cynheswch ffrimpan nes mae'n boeth a gosodwch i lwy fwrdd o olew olewydd yn y pan. Ychwanegwch y coesau a ffriwch ar y ddwy ochr am 1 munud nes iddyn nhw frownio.
Yn y cyfamser, cynheswch dish caserol gall mynd yn y ffwrn yna ychwanegwch mewn gweddill yr olew olewydd, sibols a garlleg.
Ffriwch y garlleg a sibols am tua 2 i 3munud, nes iddyn nhw feddalu.
Ychwanegwch gwin coch a dewch i'r berw pwynt.
Adiwch y rhosmari, teim, ffa menyn a finegr gwin coch a dychwelwch i'r berw pwynt.
Gosodwch yr oen mewn i'r saws a gorchuddiwch gyda stoc cyw iâr. Ychwanegwch sesnin.
Mudferwch, gorchuddiwch a gosodwch yn y ffwrn i goginio am 3 i 4 awr, neu nes mae'r cig yn feddal a chwympo bant yr asgwrn.
Ar gyfer y tatws stwnsh, gosodwch nhw mewn sosban fawr a gorchuddiwch gyda dŵr. Ychwanegwch binsiad halen, gosodwch ar yr hob a berwch.
Mudferwch am 10 – 15 munud nes yn dyner.
Ychwanegwch y cennin a choginiwch am 5 munud arall.
Draeniwch yn dda a dychwelwch i'r sosban ar wres isel am ambell eiliad i waredu unrhyw leithder.
Gan ddefnyddio teclyn "masher", potsiwch y tatws yn dda, gan ychwanegu'r olew olewydd i adio blas i'r tatws. Ychwanegwch halen a phupur. Yna adiwch y caws a chymysgwch yn drylwyr.
I gwaenu, tynnwch y coesau oen o'r saws a gosodwch ar 4 plât.
Chwipiwch y menyn mewn i'r saws a throwch.
Blaswch y pryd i wirio bod y sesnin yn iawn.
Arllwyswch y saws ar draws y coesau oen a gwaenwch gyda'r tatws.
Rysáit gan Dan Williams, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?