Catrin Thomas
calendar Dydd Mercher, 12 Ionawr 2022
Cacen clementin ac almwn
Cynhwysion
- 4 clementin
- 4 ŵy
- 165g siwgr brown
- croen 2 lemwn
- 165g almwnau
- 2 llwy de blawd pobi
- clementins caramel
- 8 darn clementin
- 150g siwgr castir
Dull
- Golchwch y clementinau.
- Gosodwch yn sosban a'i gorchuddio efo dŵr.
- Codwch i berw bwynt yna gadwch mudferwch (simmer) am 40 munud.
- Dylai'r ffrwyth fod yn feddal.
- Tynnwch allan y clementinau a gadwch i oeri.
- Torrwch nhw mewn hanner a gwaredwch unrhyw hadau.
- Gosodwch y clementinau i gyd mewn prosesydd bwyd a chymysgwch nes mae'n esmwyth.
- Cynheswch y ffwrn i 170°c / Nwy 5. Seimiwch dun pobi efo papur pobi.
- Mewn bowlen cymysgu, chwipiwch yr ŵyau, siwgr a lemwn nes iddyn nhw gymysgu'n dda.
- Yna gosodwch mewn yr almwnau, blawd pobi a phiwrî clementin.
- Gosodwch ar dun pobi a phobwch am 40 munud.
I wneud y clementins caramel:
- Rhowch y siwgr a 100ml o dŵr mewn i sosban.
- Cynheswch yn ofalus i doddi'r siwgr, yna cynyddwch y tymheredd nes i'r dŵr throi'n lliw caramel tywyll.
- Yn araf bach, ychwanegwch 150ml o ddŵr oer i'r surop siwgr.
- Trowch efo llwy bren i sicrhau bod y caramel a'r dŵr yn cymysgu.
- Ychwanegwch y clementinau a gostyngwch y gwres.
- Gadwch am 2 awr.
- Platiwch y gacen efo clementinau ffres a hufen.
Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio