100ml llaeth (mae'n bosib defnyddio llaeth soi, almwn, neu eich hoff llaeth fegan os nad ydych am ddefnyddio llaeth)
300g penne sych
Dull
Piliwch a thorrwch y winwns a gratiwch y garlleg. Cynheswch sosban maint cymedrol i dymheredd cymedrol, yna ychwanegwch olew a ffriwch y winwns am 3 i 4 munud cyn adio'r garlleg a choginio am funud ychwanegol.
Ychwanegwch y piwrî tomato, passata, siwgr, tsili, halen + phupur a 100ml dwr i olchi allan y carton tomato. Berwch, gorchuddiwch y sosban a gostyngwch y gwres yna coginiwch am 10 munud arall.
Berwch dwr hallt mewn sosban fawr yna ychwanegwch y penne a choginiwch am 10 i 15 munud. Yna arllwyswch y dŵr i ffwrdd.
Gosodwch y ffa, ei sudd a llaeth mewn i gymysgydd (blender) yna cymysgwch nes mae'n esmwyth.
Unwaith mae'r saws wedi troi'n fwy trwchus ychwanegwch yr hufen ffa a sesnin. Arllwyswch y saws ar draws y pasta.
Platiwch i fyny gyda bach mwy tsili a dail basil ffres.
Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?