Toddwch y menyn mewn sosban fawr a ffriwch y winwns, seleri a bacwn efo'r ddeilen llawryf a theim am 5 munud, neu nes i bopeth meddalu.
Torrwch y tatws mewn i giwbiau a rhowch yn y sosban gyda'r llysiau.
Ychwanegwch y stoc a mudferwch. Coginiwch am 15 munud, neu nes i'r tatws feddalu.
Gosodwch y pysgod mewn y chowder yn sicrhau mae'r pysgod o dan yr arwyneb, potsiwch nes mae wedi coginio, dylai hyn gymryd tua 5 munud, yna tynnwch allan y pysgod.
Ychwanegwch y cennin, hufen a gwin i'r swp. Mudferwch eto am 3 munud.
Gwiriwch nid oes esgyrn yn y pysgod. Gosodwch y pysgod nol yn y Chowder, cynheswch trwyddo yna gwaenwch gyda bara ffres a phersli.
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.