Lisa Fearn
calendar Dydd Mawrth, 18 Ionawr 2022
Pancws banana fegan
Cynhwysion
- 1 cwpan llaeth almwn neu gnau coco
- 1 banana aeddfed
- 1 cwpan blawd codi
- ½ llwy de powdr pobi
- 2 llwy fwrdd hadau llygad y cythraul (poppy)
- darnau ffres pinafal
- iogwrt fegan coconyt
Dull
- Stwnsiwch y banana ar blât.
- Gosodwch y blawd a phowdr pobi mewn bowlen fawr a chymysgwch yn drylwyr.
- Wnewch dwll yn y canol a chwipiwch yn y llaeth.
- Ychwanegwch y banana.
- Ychwanegwch 2 llwy fwrdd hadau llygad y cythraul a chymysgwch.
- Dylai'r "batter" bod yn drwchus.
- Cynheswch yr olew mewn i ffrimpan dros dymheredd cymedrol.
- Ychwanegwch 2 llwy fwrdd o'r "batter" i wneud pancws steil Americanaidd.
- Gallwch greu 4-5 ar y tro.
- Ffriwch ar bob ochr am 2-3 munud nes iddyn droi'n euraidd.
- Platiwch i fyny efo iogwrt fegan, y binafal, banana a choconyt.
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Instagram: @lisafearncooks
Twitter: @lisaannefearn
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio