Toddwch y menyn mewn sosban, ychwanegwch y llaeth, trowch yn dda cyn troi bant y gwres. Rhowch y ddau fath o flawd mewn bowlen, cymysgwch yn dda a ychwanegwch y wyau.
Ychwanegwch y cymysgedd llaeth ychydig ar y tro nes mae wedi cymysgu ac mae'r batter yn esmwyth.
Arllwyswch y batter mewn i jwg a rhowch yn yr oergell am o leiaf 2 awr.
I goginio – Cynheswch ffrimpan 15 – 18cm. Ychwanegwch ychydig o olew. Unwaith i'r pan gynhesi, arllwyswch mewn digon o batter i orchuddio gwaelod y ffrimpan. Coginiwch ar un ochr am 1-2 munud, trowch drosodd a pharhewch i goginio nes mae'n euraidd.
Rhowch ar blât a gadwch yn gynnes wrth goginio'r gweddill.
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.