Lisa Fearn
calendar Dydd Llun, 21 Chwefror 2022
Brechdan stêc 6 gwlad
Cynhwysion
- stecen Aberdeen Angus
- madarch
- winwns coch
- bara panini
- fflecs tsili
- caws per las
- letys
- berwr y dŵr (watercress)
Ar gyfer y dresin
- 2 lwy fwrdd mayo
- tabasco
- 1 llwy de mwstard dijon
- 1 llwy fwrdd lea a perrin
Dull
- Torrwch y bara panini a arllwyswch ychydig o olew olewydd arno, adiwch tamed o halen a phupur a fflecs tsili os chi'n hoffi tamed o sbeis.
- Sesnwch y stecen efo olew, halen a phupur.
- Gwaredwch "stalks" y madarch yna gosodwch nhw ar y gril.
- Sleisiwch y winwns mewn i ddarnau 1cm, gosodwch nhw ar y gril.
- Tra bod popeth yn coginio, wnewch saws / dresin am y frechdan.
- I haenu'r frechdan, gwasgarwch saws ar y bara, ychwanegwch letys a watercress.
- Ychwanegwch y dresin, winwns a madarch.
- Tynnwch y stecen oddi wrth y gril a gadwch am ychydig. Torrwch y stecen ac ychwanegwch i'r frechdan. Adiwch halen a phupur, yna darnau o gaws per las.
- Gorchuddiwch efo bara yna mwynhewch!
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Instagram: @lisafearncooks
Twitter: @lisaannefearn
Ryseitiau Prynhawn Da
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio