Lisa Fearn
calendar Dydd Iau, 10 Chwefror 2022
Bisgedi mafon a siocled gwyn
Cynhwysion
- 125g menyn
- 125g siwgr castir
- 85g llaeth tewychedig
- 175g blawd codi
- siocled
- basged o mafon
Dull
- Mewn bowlen fawr, hufennwch y menyn a siwgr nes maent yn olau yna trowch yn y llaeth.
- Hidlwch y blawd yna gweithiwch mewn i does meddal gyda'ch dwylo.
- Cymysgwch yn y siocled a chymrwch dwrn bach o'r toes gan gwastadu efo'ch bysedd.
- Gosodwch 2-3 mafon mewn yng nghanol y cookie a gosodwch ar dun pobi.
- Pobwch am 15 i 18 munud, neu nes yn euraidd.
- Gadwch i oeri ychydig cyn symud nhw ar ei rac oeri.
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Instagram: @lisafearncooks
Twitter: @lisaannefearn
Ryseitiau Prynhawn Da
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio