Arllwyswch 100ml o ddŵr mewn i bowlen a gadwch y gelatin i soacio am rhai munudau.
Adiwch 150ml mwy o ddŵr mewn i sosban gyda 100g o gelatin hylif a 300g siwgr castir. Berwch nes i dymheredd y cymysgedd cyrraedd 120°c.
Chwipiwch yr wyau gyda pheiriant trydanol nes iddyn nhw feddalu.
Yn araf, arllwyswch yn y cymysgedd siwgr poeth.
Ychwanegwch y gelatin a chymysgwch i gyd yn drylwyr nes iddo oeri.
Gosodwch y cymysgedd mewn bag peipio a peipiwch yn daclus mewn i dun gydag olew neu tray ciwbiau ia. Gadwch i setio am awr yna drowch arno i dun gyda siwgr eisin.
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.