'rind' y bol porc (gofyn i'r bwtchar tynnu'r rind o'r bol)
olew olewydd
Salad daikon:
rhuddygl daikon
nionod coch
olew olewydd extra virgin
halen môr
finegr pinakurat
persli ffres
Dull Chris
Humba:
Ffrio'r tsiyncs o bol porc a'i liwio, i mewn 'efo'r peppercorns cymysg a cwmin (ar ôl bash yn y 'pestle & mortar'), yna ychwanegu'r nionod, garlleg a sinsir. Ffrio tan bod y nionod yn feddal, wedyn 'deglaze' 'efo'r finegr pinakurat.
I mewn 'efo'r sudd pînafal, sblash o saws soî a dipyn o ddwr, llond llaw o siwgr brown a'r fermented black beans (ma rhain yn rili hallt). Ti isio'r hylif jysd gyfro'r cig! Caead ar yna cwcio ar dân isel am 3-4 awr. Gadael y caead ffwrdd am yr awran ola i reducio'r sôs.
Ar ôl 3-4 awr, dylai'r bol porc fod yn rili tendar a'r sôs 'di reducio lawr.
Chicharron:
Os dachisho go ar neud hwn, mae 'na dipyn o waith prep syml i 'neud - berwi'r rind am awran, gadal o oeri rhywfaint cyn crafu gymaint o'r braster gwyn o'r rind (wrth fod yn ofalus ddim i neud tylla yn y rind).
I mewn i'r dehydrator neu'r popty ar dymheredd rili isal (70℃) am 12-18 awr. Dylai'r rind fod fel plastig / gwydr brown erbyn y stêj yma.
Rhoi'r rind mewn olew poeth, dyfn a bydd o'n pyffio mwy na Snoop Dogg ar b'nawn Sul!
Salad daikon:
Pilio a torri'r rhuddygl daikon i mewn i stribedi tenau, yna ei roi mewn powlen efo stribedi tenau o nionod coch, glyg o olew olewydd 'Extra Virgin', pinsiad o halen môr, sblash o finegr pinakurat a dail persli ffres.
Dwi'n hoffi serfio'r humba efo'r chicharron, y salad, a reis o'r paced - syml!
Rysáit gan Chris Roberts a'i westeion arbennig (Bwyd Byd Epic Chris).