Cychwynnwch trwy frwsio 2 ramekin gyda menyn meddal – brwsiwch am i fyny sef ffordd fydd y souffle yn codi.
Llenwch un ramekin gyda'r siwgr gronynnog a'i arllwys i'r ramekin arall wrth orchuddio'r ochrau. Rhowch yn yr oergell nes y byddwch angen eu defnyddio.
Cynheswch y bara brith yn y popty neu yn y micro-don. Yna, cyfunwch gyda'r wisgi i ffurfio past trwchus.
Mewn cymysgwr, ychwanegwch y gwynwy a thraean o'r siwgr caster a'i chwipio ar gyflymder uchel. Ychwanegwch weddill y siwgr yn araf nes bod y gymysgedd yn stiff.
Curwch lwyaid o'r meringue yn y past bara brith. Plygwch weddill y gwynwy i'r gymysgedd bara brith yn araf, traean ohono ar y tro.
Yna, rhowch y gymysgedd mewn bag peipio a'i beipio i'r ramekins gan wneud yn siŵr bod y gymysgedd yn llenwi'r corneli. Gwnewch yn siŵr bod y wyneb yn llyfn gan ddefnyddio cyllell balet os oes angen. Rhowch eich bawd o amgylch ochrau'r ymylon fel na fydd y souffle yn glynu wrth godi.
Rhowch y souffle mewn popty poeth a chaewch y drws yn ofalus. Trowch y gwres i lawr i dymheredd o 180°C unwaith i chi gau'r drws.
Pobwch am 14 munud.
Cynhwysion y saws Worther's Original
100g losin Worther's Original
100g hufen chwipio
Dull ar gyfer y Saws
Toddwch y losin mewn sosban yn ofalus.
Cynheswch yr hufen mewn sosban a'i ychwanegu i'r losin wedi meddalu.
Ychwanegwch binsiad o halen môr a'i gymysgu'n dda.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.