20g menyn (gydag ychydig yn ychwanegol i'w frwsio)
2 ŵy
3 lwy fwrdd o siwgr caster
1 llwy fwrdd o flawd
75g o laeth
75g o hufen
pinsied o Halen Môn
hufen ia fanila
4 sbrigyn o tarragon
siwgr caster euraidd i'w weini
digon o geirios aeddfed
Dull
Cynheswch y popty i wres o 180 gradd selsiws.
Toddwch y menyn mewn padell dros wres isel nes iddo droi yn frown fel cneuen, yna gadewch i oeri ychydig.
Mewn powlen, chwipiwch yr ŵy, siwgr a blawd nes yn esmwyth.
Ychwanegwch y menyn yn ofalus i'r gymysgedd wyau gan ei chwipio yn gyson.
Dewch a'r llefrith a'r hufen i'r berw cyn eu chwipio i mewn i'r gymysgedd wyau.
I orffen, tynnwch y dail oddi ar y sbrigyn o tarragon a'i flendio yn y cytew. Fel arall, fe allwch chi dorri'r dail yn fan cyn eu hychwanegu i'r cytew.
Brwsiwch waelod eich dysglau gyda menyn. Gorchuddiwch waelod y dysglau gyda cheirios gan wneud yn siŵr eich bod wedi tynnu'r cerrig o bob un. Yna, gorchuddiwch y ceirios gyda'r cytew.
Pobwch am 17 munud nes bod y cytew wedi coginio.
Unwaith mae'r clafoutis wedi ei goginio, gorchuddiwch gyda siwgr caster euraidd a'i roi o dan y gril nes ei fod wedi carameleiddio.
I'w weini gyda sgŵp o hufen ia fanila a deilen aur.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.