Cychwynnwch trwy gymysgu'r menyn a'r siwgr eisin gyda'i gilydd mewn cymysgwr nes yn olau a'n ysgafn. Ychwanegwch un wy a'i guro yn dda.
Yn araf, ychwanegwch y blawd a'r powdwr cocoa a'i guro'n araf.
Ychwanegwch y croen oren a phinsiad o halen mor. Curwch nes bod y gymysgedd yn ffurfio pelen.
Tra bod y toes yn feddal, rholiwch rhwng dau damaid o bapur pobi neu ddalen pobi silicon a'i adael i oeri yn yr oergell neu rhewgell am 30 munud.
Ar ôl 30 munud, torrwch gylchoedd o'r toes a chylchoedd llai yn y canol ar gyfer y jam.
Dewch â'r hufen i'r berw cyn ei arllwys ar ben y siocled. Cyfunwch yn dda gyda blender llaw cyn ychwanegu'r menyn.
Gwnewch yn siŵr bod yr holl gynhwysion wedi'u cymysgu yn dda cyn ychwanegu'r port.
Gadewch y gymysgedd i oeri cyn ei roi mewn bag peipio.
I osod y bisgedi, peipiwch y ganache mewn cylch o amgylch y fisged gan adael lle yn y canol. Rhowch ychydig o'r jam ceirios yn y canol cyn ei orchuddio gyda bisged arall i'w gwblhau!
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.
Rysáit gan Richard Holt.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?