Mewn powlen, chwipiwch y melynwy a'r siwgr gyda'i gilydd yn dda. Dewch a'r llaeth a'r hufen i'r berw cyn ei arllwys dros y gymysgedd wy.
Torrwch y brioche yn ddarnau (mae hen fara yn gweithio'n well) a'i socian yn y gymysgedd cwstard.
Ar wres canolig, ffriwch y darnau brioche wedi'i socian gydag ychydig o fenyn nes yn euraidd ar y ddwy ochr ac wedi coginio yn y canol.
Dewch a'r dŵr, gwin, siwgr, dail bae, oren a lemwn i'r berw mewn sosban. Rhowch yr eirin gwlanog yn y sosban i fudferwi am 7 munud. Fe ddylai hynny fod yn ddigon o amser iddyn nhw feddalu a'r croen i'w blicio i ffwrdd yn hawdd. Tynnwch yr eirin o'r gymysgedd ynghyd â'r dail bae, oren a lemwn gan adael yr hylif i droi yn surop esmwyth.
Sleisiwch yr eirin tra'n gynnes a'u gosod ar ben y tost Ffrengig.
I'w weini gydag ychydig o ddail coriander a deilen aur.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.
Rysáit gan Richard Holt.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?