Yn gyntaf, cynheswch y popty i wres o 160°C. Ar gyfer blas moethus y cnau cyll, tostiwch 25g o'r cnau cyll mâl nes yn euraidd. Curwch y menyn a'r siwgr gyda'i gilydd gyda chymysgwr nes yn esmwyth. Ychwanegwch yr ŵy a'i guro nes ei fod wedi ei gymysgu. Hidlwch y blawd, powdwr pobi a'r halen gyda'i gilydd cyn eu hychwanegu yn araf i'r gymysgedd.
Yn olaf, ychwanegwch y cnau cyll wedi eu tostio i'r gymysgedd nes bod y toes yn ffurfio pelen. Gorchuddiwch gyda cling film a'i adael i oeri am 20 munud yn yr oergell.
Rholiwch y toes i drwch o 5mm a'i bobi yn y popty am 15 munud. Peidiwch â phoeni os nad yw'n edrych fel ei fod wedi coginio – mi fyddwch chi'n ei roi yn ôl yn y popty yn hwyrach ymlaen.
Defnyddiwch dun cylch ar gyfer tartenni, torrwch y toes a rhowch bapur pobi yn y tun.
Eto, tostiwch y cnau cyll nes yn euraidd. Curwch y menyn a'r siwgr gyda chymysgwr nes yn olau. Ychwanegwch un ŵy ar y tro a'i gymysgu.
Yna, ychwanegwch y cnau cyll a'r halen a'i gymysgu nes yn esmwyth.
Rhowch y gymysgedd mewn bag i'w beipio i mewn i'r tun ar ben y toes. Sleisiwch y fricyllen a'i gosod ar ben y gymysgedd. Pobwch am 20 munud.
Dewch a'r cynhwysion i'r berw mewn sosban. Hidlwch y gymysgedd ar ôl 2 funud a thynnwch y dail te. Yna, brwsiwch y gymysgedd yn hael ar ben y darten.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Anrhegion Melys Richard Holt.
Rysáit gan Richard Holt.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?