Mae pastry siocled da yn hanfodol ar gyfer y pwdin yma. Mae'n bwysig iawn hidlo'r blawd a'r cocoa cyn cymysu neu fydd na lympiau o flawd yn y pastry gorffenedig - a ti rili ddim isho huna! Rhowch y cynhwysion mewn bowlen peiriant cymysgu.
Tip bach arall da ydi ychwanegu mymryn o halen Môn – neith hyn gryfhau blas y siocled.
Nesaf, mae angen ychwanegu ciwbiau bach o fenyn oer (os di'r menyn yn gynnes neith y pastry droi mewn i bast gwlyb!) a chymysgu'r cwbl lot ar gyflymder isel nes i'r gwead edrych fel briwsion bara.
I atal y pastry rhag sblitio mae'n bwysig ychwanegu'r wyau un ar y tro.
Gadewch i'r peiriant cymysgu wneud ei waith, yna defnyddiwch eich dwylo i weithio'r toes rhyw 'chydig. Os 'da chi'n gorweithio'r toes, mi wnewch chi orweithio'r glwten fydd yn golygu crwst sy'n rhy galed unwaith mae o wedi pobi.
Unwaith mae'r toes di dod at ei gilydd, dwi'n gweithio fo 'chydig bach efo'n nwylo cyn eiroi yn yr oergell am 20 munud.
Rholiwch y crwst allan i 0.3mm a leinio 'pastry case' bach.
Gadewch iddo oeri eto am 10 munud yn yr oergell.
Leiniwch y cas pobi gyda papur gwrthsaim neu 'clingfilm' sy'n saff i roi yn y popty a l lenwch efo reis.
Pobwch yn 'ddall'.
Dwi'n tynnu'r reis a'i bobi eto tan mae'n barod. Mae'n anodd dweud pan mae pastry siocled wedi pobi chos ei fod o'n dywyll – mae pobydd da yn defnyddio arogl i ddweud pan mae'n barod!
Cam 2 – Irish Cream Cremeux
Curwch y melynwy a'r siwgwr efo'i gilydd.
Cynheswch hufen chwipio yn ofalus tan mae'n berwi.
Arllwyswch yr hufen tros yr wyau a'r siwgwr gan chwipio drw'r adeg – mae hyn yn atal y melynwy rhag coginio.
Rhowch y gymysgedd mewn thermomix ar 85 gradd selsiws.
Unwaith mae'r cwstard yn drwchus, ychwanegwch y siocled a cymysgwch yn dda.
Yn olaf, dwi'n ychwanegu Irish Cream a gadael iddo oeri.
Cam 3 – Jeli Lemwn
Dwi'n blodeuo 'gelatine' mewn dwr gyda rhew ynddo
Dwi'n berwi sudd lemwn ac yna'n y
Ychwanegu'r 'gelatine'.
Dwi'n sievio'r sudd i gael gwared o unrhyw ddarnau microsgopig o gelatin sydd heb doddi.
Cam 4 – Feuilletine cnau cyll
Toddwch siocled llaeth a phraline cnau cyll efo'i gilydd ar wres isel.
Ychwanegwch y feuilletine a'i gymysgu'n drylwyr.
Gadewch iddo oeri'n gyflym yn yr oergell.
Cam 5 - Canol Hylif Cnau Cyll
Cymyswch Praline Cnau Cyll efo llaeth.
Ychwanegu Ultratex nes bod y cysondeb yn addas.
Ychwanegu 'chydig o Halen Mon.
Rhewi mewn semi-sphere moulds.
NEU - I greu'r liquid centers dwi'n cymysgu praline cnau cyll efo llefrith ac yn ei dewhau efo cynhwysyn arbennig mae chefs patisserie yn ei ddefnyddio – ultratex. Mae'r podwr yma'n ddi-flas ond yn helpu i dewhau'r cymysgedd. Fydd rhain yn cael eu rhewi cyn eu defnyddio yny Môn Blanc.Cam 6 - Mousse Siocled a Chnau Castan
Berwi hufen a siwgr.
Arllwys y gymysgedd ferwedig dros y siocled a'i gymysgu nes ei fod yn llyfn.
Ychwanegu mascarpone a chnau castan a'i gymysgu eto nes ei fod yn llyfn.
Gadewch iddo osod yn yr oergell dros nos.
Cam 7 - Rhoi at ei gilydd
Peipio'r Cremeux hufenog efo Irish Cream liqueur ynddo mewn i waelod y darten.
Ychwanegu darnau bach o'r feuilletine (darnau bach blasus o crepes wedi'w crasu) a jeli lemwn i roi cic bach 'citrus' i'r pwdin.
Dipio'r 'semi-sphere' cnau cyll wedi'u rhewi mewn siocled (er mwyn sicrhau nad yw'r 'liquid centre' yn diferu i bobman pan mae o wedi dadmer) a'i roi ar ben y darten.
Chwipio'r mousse.
Defnyddio sbatwla bach i greu siâp mynydd efo mousse chestnut.
Peipio sberial ar y côn gan ddefnyddio chwaraewr recordiau
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o gyfres Richard Holt: Yr Academi Felys.
Rysáit gan Richard Holt.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?