Bakewell ceirios a taragon
Gan Richard Holt
calendar Dydd Sadwrn, 04 Rhagfyr 2021
Cam 1 - Gwneud pastry siocled yn union fel dw i'n gwneud ar gyfer y Môn Blanc
Cam 2 - Gwneud y llenwad frangipane
- Rhostio almonau man nes yn euraidd. Bydd hyn yn rhoi blas almonau cyfoethog trwy'r bakewell. Gadewch i oeri.
- Cymysgwch fenyn a siwgr gyda'i gilydd ar gyflymder araf (gwnewch yn siŵr bod y menyn ar dymheredd ystafell cyn ei ddefnyddio) Peidiwch a gor chwipio'r gymysgedd yma neu bydd yn gwahanu unwaith i chi ychwanegu'r wyau.
- Ychwanegwch wyau, un ar y tro.
- Ychwanegwch yr almonau wedi rhostio i'r gymysgedd.
- Ychwanegwch binsiad o halen.
- Ychwanegwch tarragon wedi ei dorri'n fan i'r gymysgedd.
- Gadewch i orffwys ar dymheredd ystafell.
Cam 3 - Pobwch y darten frangipane
- Llenwch waelod y darten wag hefo haen denau o jam plwm a mafon.
- Yna, mewn hefo'r cymysgedd frangipane a'i lyfnhau efo cyllell paled fach.
- Pobwch ar dymheredd o 160 gradd nes bod o'n euraidd a 'di pobi yn y canol.
- Gadewch i oeri.
Cam 4 - Paratoi'r canol ceirios
- Tynnwch y cerrig o 1kg o geirios
- Blendiwch hanner ohonyn nhw a phasio'r piwrî mân trwy sieve.
- Torrwch yr hanner arall i mewn i chwarteri a chyfuno hefo'r piwrî.
- Ychwanegwch lond llaw o tarragon wedi ei falu'n fan i wella blas y ceirios.
- Rhewch y gymysgedd mewn mowld hanner sffêr.
Cam 5 - Gwnewch y mousse fanila mascarpone
- Berwch yr hufen a'r siwgr gyda'u gilydd
- Ychwanegwch 'setting agent'
- Arllwys mascarpone drosto a'i gymysgu'n dda.
- Gadewch i oeri dros nos.
- Cam 6 - Chwipio'r mousse
- Chwipiwch y mousse mascarpone nes yn gadarn ond yn esmwyth.
- Peipiwch y mousse mewn i fowld hanner sffêr (ychydig yn fwy na'r un ar gyfer y ceirios) ac yna gosod y canol ceirios i mewn.
Gadewch i rewi.
Cam 7 - Gwnewch y glaze
- Berwch ddŵr, siwgr a glwcos i 103 gradd selsiws.
- Arllwyswch dros siocled gwyn ac ychwanegu'r setting agent.
- Yn olaf, ychwanegwch condensed milk a'i flendio yn dda.
- Gadewch i oeri at 32 gradd selsiws cyn ei ddefnyddio.
Cam 8 - Gosod gyda'i gilydd
- Rhowch glaze coch ar ben yr hanner sffêr.
- Gosodwch ar ben y frangipane yn ofalus.
- Gwnewch meringue Eidalaidd trwy ferwi siwgr a dŵr ar dymheredd o 121 gradd selsiws. Arllwyswch dros wyn wy tra'n ei chwipio.
- Chwipiwch i greu pigau stiff a'i beipio o amgylch y gromen.
- Gorffennwch gyda deilen aur.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Richard Holt: Yr Academi Felys.
Rysáit gan Richard Holt.