Catrin Thomas
calendar Dydd Mercher, 30 Mawrth 2022
Cacennau tatws melys ac eog
Cynhwysion
- 2 x 180g ffiled eog
- ½ llwy de halen
- ½ llwy fwrdd olew olewydd
Ar gyfer y pys:
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 1 winwns
- ½ clof garlleg
- 125ml stoc
- 250g pys
- ½ llwy de siwgr
- mint ffres
Ar gyfer cacennau tatws melys:
- 250g tatws melys
- 30g blawd plaen
- ½ llwy de powdr pobi
- ½ llwy de powdr cyrri
- ½ llwy fwrdd siwgr brown
- 1 tsili coch
- 2 sibols
- dyrned coriander
- 1 ŵy
- 30ml llaeth
- olew heulflodyn
Dull
- Ar gyfer y pys, cynheswch olew yn y sosban, ychwanegwch y winwns a sauté am rhai munudau.
- Ychwanegwch y garlleg, "stick", pys a siwgr.
- Coginiwch am 15 munud.
- Stwnsiwch y tatws, ychwanegwch y dail mint ac adiwch halen a phupur.
- Cynheswch y ffwrn i 140°c | 120°c ffan | Nwy 1.
- Ychwanegwch olew mewn i'r ddysgl pobi.
- Gosodwch yr eog mewn gyda'r croen ar waelod y ddysgl.
- Ychwanegwch sesnin a phobwch am 20 munud nes iddo goginio.
Ar gyfer y tatws:
- Gratiwch y tatws melys.
- Cymysgwch y blawd, powdr, pwdr cyrri, siwgr, tsilis, sibols a choriander.
- Ychwanegwch halen a phupur.
- Adiwch yr ŵy a llaeth i greu batter.
- Trowch yn y tatws wedi gratio.
- Coginiwch mewn casgliadau.
- Cynheswch 1cm o olew mewn ffrimpan ddofn.
- Dropiwch ambell lwy fwrdd o'r cymysgedd mewn i'r olew.
- Ffriwch ar dymheredd cymedrol am sawl munud ar bobl ochr nes mae'n euraidd.
- Draeniwch ar bapur cegin.
- Gwaenwch gyda'r eog a phys.
Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio