Lisa Fearn
calendar Dydd Mercher, 30 Mawrth 2022
Cacen siocled
Cynhwysion
- 150g blawd hunan codi
- 30g coco
- 1 llwy de powdr pobi
- 175g muscovado neu siwgr brown
- 175g menyn
- 3 ŵy
- 1 llwy de fanila (extract)
- 50g siocled tywyll
Eisin cyffug:
- 200g menyn
- 200g siwgr eisin
- 200g siocled tywyll
Dull
- Seimiwch 2 tun 20cm gyda menyn.
- Gosodwch y cynhwysion cacen i gyd mewn i brosesydd bwyd a chymysgwch nes yn esmwyth.
- Gwahanwch y cymysgedd yn gyfartal rhwng y tuniau, pobwch am 20 munud. Gadwch am 5 munud yna gosodwch ar rac i oeri.
- Cymysgwch y menyn a siwgr eisin, ychwanegwch y siocled wedi'i doddi, cymysgwch yna gwasgwch yr haenau at ei gilydd ac addurnwch y top.
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Instagram: @lisafearncooks
Twitter: @lisaannefearn
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio