Lisa Fearn
calendar Dydd Iau, 31 Mawrth 2022
Cyw iâr (a llysiau)
Cynhwysion
Ar gyfer y stwffin:
- 5 darn hen bara
- 1 winwns
- 6 bricyll
- dyrnaid cnau pecan neu Ffrengig
- 1 llwy de teim
- 1 ŵy
- 50ml hufen dwbl
- 1 llwy fwrdd menyn ac olew
- halen a phupur
Ar gyfer y cyw iâr:
- 1 brest cyw iâr neu 2 clun heb asgwrn
- 2 sleis bacwn neu ham
Dull
- Ewch ati i wneud y stwffin wrth fali bara hen mewn prosesydd bwyd.
- Piliwch a thorrwch winwnsyn yn fan, ffriwch mewn ychydig o fenyn ac olew.
- Ychwanegwch y winwns i'r briwsion bara, yna ychwanegwch lwy fwrdd teim, halen a phupur yna cymysgwch yn drylwyr.
- Ychwanegwch 1 ŵy ac 1 llwy fwrdd o hufen dwbl i leithio'r stwffin.
- Gosodwch haen o cling ffilm ar y bwrdd gegin a gosodwch yr ham/bacwn ar ben y cling ffilm.
- Cymerwch y cyw iâr a gyda chyllell sharp agorwch i fyny'r frest i wneud yn denau a fflat.
- Gosodwch y frest ar ben yr ham/bacwn a gosodwch ddyrnaid o stwffin yn y canol.
- Lapiwch yr ochr agosach i chi dros y stwffin i gau, gan wthio ar y llenwad.
- Roliwch i ffurfio cylinder. Gall hwn nawr mynd yn yr oergell nes chi'n barod i goginio.
- Pryd rydych yn barod i goginio, gwaredwch y cling ffilm a gosodwch y cyw iâr ar dun pobi a gorchuddiwch gyda ffoil.
- Pobwch yn y ffwrn am tua 40 munud, gan ddibynnu ar faint y roll.
- Dadorchuddiwch y ffoil a gosodwch nôl yn y ffwrn am 10 munud arall i wneud yr ham/bacwn yn euraidd.
- Gwiriwch fod tymheredd ganol y cyw iâr yn 75°c.
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Instagram: @lisafearncooks
Twitter: @lisaannefearn
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio