Beca Lyne-Pirkis
calendar Dydd Llun, 04 Ebrill 2022
Peli cig Swedaidd, tatws a llysiau gwyrdd
Cynhwysion
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- 4 shibwns, wedi torri'n fân
- 2 clof garlleg, wedi torri'n fân neu ratio
- 175g briwgig porc heb lawer o fraster
- 1 melynwy
- bwnsh bach o dil ffres, wedi torri'n fân
- 350ml stoc cyw iâr
- 1 llwy de mwstard dijon
- 80g iogwrt plaen di-fraster
- 250g tatws newydd
- 180g llysiau gwyrdd y gwanwyn
Dull
- Mewn bowlen, cymysgwch y shibwns, garlleg, briwgig porc, melynwy, dil ac ychydig o sesnin.
- Rhannwch y gymysgedd mewn i 12 o beli cig. Cynheswch yr olew mewn padell ganolig a brownio'r peli cig, gan eu troi yn ofalus tan eu bod wedi coginio.
- Tynnwch y peli cig o'r badell ac ychwanegwch y stoc. Dewch a'r stoc i ferwi cyn ei leihau i fudferwi.
- Cymysgwch y mwstard Dijon a'r iogwrt drwyddo – blaswch a gwirio'r sesnin cyn dychwelyd y peli cig i'w cadw yn gynnes.
- Yn y cyfamser, berwch y tatws Newydd tan yn feddal, ac mewn sosban arall coginiwch y llysiau gwyrdd am ychydig funudau.
- I weini, rhannwch y tatws, llysiau gwyrdd a'r peli cig rhwng dau blât ac arllwys y saws ar y blât.
Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.
Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru
Instagram Beca: @becalynepirkis
Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio