Mewn sosban fawr, cynheswch yr olew dros wres isel-canolig ac ychwanegu'r nionod, pupur, moron a seleri wedi sleisio/torri.
Coginiwch gan droi bob hyn a hyn tan eu bod yn feddal a melys – tua 10-12 munud.
Ar ôl yr amser yma ychwanegwch y garlleg, bricyll a gwygbys (chickpeas) a choginio am 3-4 munud pellach.
Nesaf ychwanegwch y sbeisys a choginio am ychydig funudau cyn ychwanegu'r tomatos.
Rhowch binsiad go lew o halen, cymysgu a'i adael i fudferwi, gan droi bob hyn a hyn, am 20 munud.
Ar ôl yr 20 munud, coginiwch y couscous yn ôl cyfarwyddiadau'r paced (fel arfer yr un maint o ddŵr a couscous), rhowch mewn bowlen hefo dŵr berwedig, cymysgu a'i orchuddio a'i adael i amsugno'r dŵr am ychydig funudau.
Yn y cyfamser tostiwch yr almwnd a thorri'r perlysiau yn barod i weini.
Rhannwch y couscous rhwng 2 fowlen, yna hanner y tagine.
Gwasgarwch ychydig o'r iogwrt drosto a gorffen drwy ychwanegu'r perlysiau a'r almwnd.