Beca Lyne-Pirkis
calendar Dydd Llun, 04 Ebrill 2022
Dewis salad dy hun
Cynhwysion
- 80g letys
- 200g tatws newydd
- 60g ciwcymbr
- 60g tomato
- 80g ffa gwyrdd
- 2 wy
- 1 tin tiwna mewn dŵr gwanwyn (145g wedi draenio) neu 45g Feta
- 1 llwy de mwstard dijon
- 1 llwy fwrdd olew olewydd
- sudd ½ lemon
- pinsiad halen a phupur.
Dull
- Berwch y tatws mewn dŵr halen tan yn feddal, yna eu draenio.
- Berwch yr wyau mewn dŵr berw am 6 munud tan yn feddal yna eu rhoi mewn dŵr oer i stopio'r wyau rhag coginio ymhellach.
- Coginiwch y ffa gwyrdd mewn dŵr berw halen am 2-3 munud, yna ychwanegu dŵr oer i gadw nhw'n grimp a rhag coginio ymhellach.
- Tra bo'r tatws, wyau a ffa gwyrdd yn coginio paratowch gweddill y cynhwysion.
- Rhwygwch y letys a'i rannu rhwng 2 blât.
- Torrwch y ciwcymbr a'r tomatos yn giwbiau a'u rhannu rhwng dau blât.
- Unwaith mae'r tatws, wyau a ffa gwyrdd wedi cwcio rhannwch nhw rhwng 2 blât hefo'r tiwna neu feta.
- I wneud y dresin salad, ychwanegwch y mwstard Dijon, olew olewydd, sudd lemon, sesnin a 3 llwy fwrdd o ddŵr mewn jar gyda chaead.
- Caewch y caead yn dyn ac ysgwyd y jar i'w gymysgu.
- Rhannwch y dresin salad rhwng 2 blât a'i weini.
Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.
Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru
Instagram Beca: @becalynepirkis
Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio