Paratowch y llysiau i gyd cyn cychwyn coginio, oherwydd ni fydd y pryd bwyd yn cymryd yn hir.
Os oes gennych wok, grêt – os ddim yna fydd ffreipan fawr yn berffaith.
Torrwch y garlleg, sinsir a shibwns (ond cadwch 1 at wedyn), torrwch y pupur gwyrdd mewn i sleisys a'r brocoli mewn i florets bach.
Gadwch y mange tout fel y maent a thorrwch hanner y chilli yn fân (gan waredu'r hadau os nad ydych yn hoffi pethau sbeislyd, a chadw'r hanner arall tuag at wedyn).
Coginiwch y nwdls yn ôl cyfarwyddiadau'r paced.
Yn y wok neu'r ffreipan fawr, cynheswch yr olew dros wres canolog-uchel ac ychwanegwch y cig i frownio am ychydig funudau.
Nesaf ychwanegwch y garlleg, sinsir, shibwns, mange tout, pupur gwyrdd a'r brocoli a tro ffrio hefo'r cig eidion am ychydig funudau.
Ar ôl ychydig funudau, ychwanegwch y nwdls wedi eu draenio a chymysgwch drwyddo.
Yn olaf ychwanegwch y saws soi a chymysgu drwyddo.
Gweinwch yn syth, a rhannwch y pryd rhwng 2 blât.
Addurnwch hefo gweddill y sbigoglys a chili wedi eu torri.