Glanhewch y tatws a'u torri yn sleisys, yna eu rhoi mewn bowlen ac arllwys 2 llwy de o olew drostynt gyda phinsiad o halen a phupur. Trowch y tatws yn yr olew a'r sesnin yna eu lledaenu ar dun pobi a'u pobi yn y popty am 20-25munud.
Tra bo'r tatws yn coginio, torrwch y perlysiau yn fan a'u cymysgu hefo'r briwsion bara, croen lemon a sesnin. Brwsiwch y pysgodyn hefo gweddill yr olew a gorchuddio'r pysgodyn hefo'r gymysgedd bara. Ychwanegwch y pysgodyn at y tatws ar ôl yr 20-25munud a choginio pob dim am 15-20munud arall.
Yn y cyfamser, golchwch y llysiau gwyrdd a'u torri'n fan. Coginiwch y pys a'r llysiau mewn dŵr berwedig hefo ychydig o halen am rhai munudau.
Gweinwch y pysgodyn a'r tatws hefo'r llysiau a phinsiad da o naddion chili a joch o sudd lemon.