Mewn ffreipan 'non stick', cynheswch yr olew dros wres canolig i isel ac ychwanegwch y nionyn ac un moron (wedi ei dorri'n fras), hefo'r star anise a choginio, gan droi o bryd i'w gilydd tan yn feddal a melys – tua 8-10munud, ychwanegwch ychydig o ddŵr os yw'r cynhwysion yn dechrau sticio i'r gwaelod.
Ar ôl rhyw 10 munud ychwanegwch y garlleg, sinsir a pwdr cyrri a pharhau i goginio am ychydig funudau eto.
Blitsiwch y llysiau mewn prosesydd bwyd gydag ychydig o ddŵr i greu saws trwchus. Rhowch i un ochr.
Coginiwch y reis yn ôl cyfarwyddiadau'r paced.
Torrwch y moron olaf a'r ciwcymbr mewn i rubanau a'i roi mewn bowlen.
Coginiwch y pys am 1 funud mewn dŵr berwedig, draeniwch ac ychwanegwch y pys at y moron a'r ciwcymbr.
Ychwanegwch y finegr a phinsiad o halen. Cymysgwch a gadewch i biclo.
Tra bo'r reis yn coginio, rhowch y cyw iâr rhwng dau ddarn papur pobi a'i wasgu'n fflat gyda sosban neu rolbren.
Brwsiwch badell 'non-stick' neu badell grilio hefo ychydig o olew a choginio'r cyw iâr tan ei fod wedi coginio.
I weini, cynheswch y saws, rhannwch y reis, salad a'r cyw iâr rhwng dau blât a gorffen hefo'r saws katsu.