Ychwanegwch dŵr i ffurfio'r toes mewn i beli bach. Gorchuddiwch yn cling ffilm a gadewch am 1 awr.
Cynheswch y ffwrn i 180°c | 160°c ffan | Nwy 4.
Roliwch y toes allan ar arwyneb gyda fflŵr i drwch darn arian £1.
Bydd angen tun gyda gwaelod, diamedr 25cm.
Gosodwch ar dun pobi. Gosodwch bapur ar ben y toes a gorchuddiwch efo ffa pobi i gadw'r bastai rhag codi.
Coginiwch am 25 munud, yna gwaredwch y ffa pobi a choginiwch am 15 munud arall.
Gorchuddiwch y toes efo "egg wash" a ail-osodwch yn y ffwrn am 5 munud.
I baratoi'r cynnwys, gosodwch y wedges sgwash a winwns coch mewn tun rostio efo 1 llwy fwrdd olew olewydd. Ychwanegwch halen. Gwywch y sbigoglys mewn sosban am ambell funud.
Draeniwch a gadwch i un ochr.
Unwaith chi'n barod, i gyfuno'r quiche, gosodwch y sgwash, winwns, sbigoglys, caws feta a cheddar ar waelod y toes.
Chwipiwch yr wyau, hufen a llaeth at ei gilydd. Ychwanegwch sesnin.
Gosodwch y tun gyda'r toes yn y ffwrn, arllwyswch yr hylif yn ofalus ar ben.
Coginiwch am 40—45 munud nes yn euraidd.
Gadwch i oeri cyn platio i fyny efo Salad.
Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?