125g ffrwythau sych cymysg gan gynnwys pîl cymysg (os mynnwch)
50g blawd plaen
2 lwy fwrdd o fêl clir
Dull
Rhowch y cynhwysion sych mewn powlen gan gynnwys y ffrwythau. Gwnewch dwll yn y canol ac arllwyswch y menyn, llaeth ac wy a chymysgwch i wneud toes meddal. Os yn rhy sych ychwanegwch rhagor o laeth cynnes.
Tylunwch am 10 munud ar ford wedi'I sgeintio â blawd, wedyn rhowch mewn powlen lan wedi'i uro ac olew a'Iiorchuddio a'i adael mewn lle cynnes tan bod y does wedi dwbli mewn maint (tua awr i awr a hanner).
Trowch y does allan a thyluno ma cwpl o funudau wedyn rhannwch i 12 darn cytbwys a siapiwch yn beli crwn. Gosodwch ar dun pobi wedi'i uro , gorchuddiwch a thywel glan a gadewch i godi mewn man cynnes am rhyw 30 munud tan wedi dwbli.
Cynheswch y ffwrn i wres 200C/180Ffan/Nwy 6.
Cymysgwch 4 llwy fwrdd o ddŵr a'r blawd i wneud past, rhowch mewn bag peipo neu fag plastic gyda chornel wedi'i dorri a rhowch groes ar bob byn.
Pobwch y byns am rhyw 15 munud tan yn euraidd ac yn swnion wag wrth guro ar y gwaelod. Rhowch ar hambwrdd oeri, twymwch y mel dros wres isel a brwsio dros pob un tra bod nhw dal yn gynnes.
Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?