Roliwch y crwsti dun flan 23cm, gwnewch dyllau gyda fforc ar ei waelod a rhoi yn yr oergell i orffwys am awr, cyn pobi'n ddall gyda ffoil ar ei waelod am gwarter awr wedyn codi'r ffoil a'i ddychwelyd i'r ffwrn am 10 munud arall.
I neud y llenwad cymysgwch y blawd corn,100g sigwr man, croen a sudd y lemwn.Ychwanegwch ddwr at y sudd oren i fesur 200ml ac ychwanegwch at y lemon a rhoi'r cyfan mewn sosban dros wres canolig a'i droi tan yn dechrau tewhau. Tynnwch o'r gwres ac ychwanegwch y menyn wedi'u dorri'n giwbiau a'i droi tan wedi toddi.
Cymysgwch y melynwy a'r wy cyfan a'i arllwys i'r sosban gyda gweddill y gymysgedd. Rhowch dros wres canolig gan gadw i droi wedyn arwllyswch dros y crwst.
Chwyrliwch y gwyn wy tan yn feddal wedyn ychwanegwch y siwgr fesul llwyaid a'r blawd corn a chadwch i gymysgu tan bod y meringue yn llyfn ac yn drwchus. Rhowch ar ben y llenwad lemwn gan wneud yn siwr eich bod yn gorchuddio'r llenwad i gyd gyda'r meringue.
Rhowch nol yn y ffwrn ar wres 170C /nwy 3.5 am 15-20 munud tan bod y meringue yn euraidd.
Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?