Piliwch a thorrwch y winwns ac ychwanegwch i'r olew wedi cynhesi mewn sosban saute. Coginiwch am 8 i 10 munud dros dymheredd cymedrol nes iddyn nhw ddechrau troi'n euraidd, drowch yn achlysurol.
Piliwch a thorrwch y moron a seleri ac ychwanegwch y winwns cyn coginio am 4 munud cyn adio'r tomatos, puree, saws soy, perlysiau a deilen llawryf. Rinsiwch y tun o domatos efo dŵr ac ychwanegwch y llysiau yna gadwch i goginio am 20 munud yna arllwyswch y can o lentils a madarch. Cymysgwch yn drylwyr yna arllwyswch mewn i ddysgl ffwrn 1.7-2 litr.
Cynheswch y ffwrn i 200°C / ffan 180°c / Nwy 6.
Rhowch y tatws yn gyfan a gyda'r croen mewn i sosban fawr a gorchuddiwch efo dŵr oer. Yna cynheswch a berwi'r tatws am 7-10 munud. Draeniwch y tatws yna gosod nhw mewn dŵr oer eto i oeri, yna gratiwch mewn i bowlen fawr. Toddwch y menyn ac arllwyswch ar draws y tatws.
Topiwch y cymysgedd lentil efo'r tatws yna pobwch am 35 munud nes yn crisp ac euraidd.
Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?