Dystiwch ychydig o flawd arno arwyneb glan a roliwch allan y toes mewn i sgwâr gyda phin rowlio. Mesuriad 26cm x 26cm. Torrwch mewn i 4 neu 6 sgwâr hafal.
Gosodwch y sgwariau toes ar dun pobi, gan adael digon o le rhwng bob darn.
Gan ddefnyddio cefn llwy, gwasgarwch pesto yng nghanol bob sgwâr.
Torrwch y tomatos a snapiwch yr asbaragws mewn i ddarnau 3cm.
Torrwch y courgettes mewn i rubanau gan ddefnyddio piliwr.
Rhwygwch y pupurau mewn i stripiau.
Pigwch y dail basil.
Cymysgwch y llysiau i gyd at ei gilydd mewn bowlen, gydag ychydig o olew olewydd.
Gosodwch ychydig o'r cymysgedd ar bob tarten a thopiwch gyda 2 olewydd.
Torrwch i fyny'r Mozzarella a gosodwch y darnau bach ar ben bob tarten.
Gratiwch drosodd parmesan.
Pobwch am 15 i 20 munud, nes mae'r toes yn euraidd.
Unwaith mae'r tartenni yn barod, gadwch i oeri. Yna gosodwch y dail basil ar ben a gweinwch gyda salad.
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.