Cymysgwch y cynhwysion cacen mewn bowlen efo whisk.
Gosodwch mewn tun cacen gyda phapur pobi (tun 12-15cm).
Pobwch ar dymheredd 170°c am tua 45 munud, nes iddo goginio trwyddo.
Ar gyfer yr eisin, chwipiwch y cynhwysion mewn bowlen, nes mae'n feddal.
Ar gyfer y shards siocled, toddwch y siocled yn araf a gwasgarwch ar papur pobi, yna gwasgarwch drosodd mini eggs wedi'i malu + popcorn a gadwch i setio.
Unwaith i'r gacen oeri, torrwch yn hanner a gwasgarwch yr eisin yn y canol ac ar y top.
Torrwch y siocled i greu shardiau.
Addurnwch dop y gacen gyda mini eggs, shardiau + creme eggs.
Rysáit gan Shane James, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?