S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Salad caesar eog

Cynhwysion

  • 2 filet neu tun eog
  • 2 letys "baby gem"

Croutons

  • 1 torth surdoes
  • 100g menyn

Dresin caesar:

  • 3 melynwy
  • 1 llwy fwrdd mwstard dijon
  • finegr gwin gwyn
  • 100-150ml olew olewydd
  • 50g brwyniaid (anchovies)
  • 3 clof garlleg
  • 50g parmesan

Dull

  1. Gosodwch y samwn gyda'r croen ar y gwaelod ar tun pobi a pobwch ar dymheredd 180°c am tua 12 – 15munud.
  2. Cynheswch y menyn mewn ffrimpan efo olew. Torrwch y surdoes a ffriwch nes mae'n euraidd.
  3. Ar gyfer y dresin, chwipiwch y melynwy, mwstard + finegr yna chwipiwch mewn yr olew nes iddo fynd yn drwchus. Ychwanegwch y garlleg + brwyniaid.
  4. Pigwch y dail i ffwrdd y letys, rhowch dresin + croutons.
  5. Gwasgarwch samwn mewn i'r salad.

Rysáit gan Shane James, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?