Shane James
calendar Dydd Mercher, 01 Mehefin 2022
Pysgod a sglodion jin a tonig
Cynhwysion
- 4 ffiled pysgod gwyn
- 50ml jin
- blawd codi
- tonic
Sglodion:
- 6 tatws
- 5ltr olew
- Pys 'mushy':
- 2 tun pys
- 1 bloc menyn
- 50ml hufen dwbl
Saws tartar:
- 100g mayo
- 2 lwy fwrdd bara lawr
- 1 croen lemwn
- 50g caprys (capers)
- 50g gherkins
- 50g dil
- 1 sialóts
Dull
- Gosodwch tray o olew, tua 5cm o ddyfnder, mewn i ffwrn ar dymheredd 220°C am 10 munud.
- Torrwch datws mewn i sglodion a berwch nes iddyn nhw feddalu, yna draeniwch a gadael i oeri.
- Yna gosodwch ar y tray a gadael i goginio yn y ffwrn nes maen nhw'n euraidd.
- Cymysgwch gin, blawd a thonic i greu batter.
- Halltwch y pysgod, yna gorchuddio mewn batter yna ffriwch mewn ffriwr ar dymheredd 180°c nes yn euraidd.
- Ar gyfer y pys, gosodwch yn pan, ychwanegwch fenyn a hufen, berwch yna blitsiwch nes yn mushy.
- Cymysgwch y saws Tartar at ei gilydd, gweinwch gyda sglodion, pysgod a phys.
Rysáit gan Shane James, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio