Pan fry sydyn i frownio 2 ochr yr hwyaden. Gorffen yn y popty am 2/3 munud (neu mwy os ddim yn binc).
Ar gyfer y Tatws Ffondant, torrwch i'w siâp, berwi mewn gwres isel tan iddyn nhw feddalu yn y canol. Oeri, ac wedyn pan fry eto i'w brownio. Gorffen yn y popty i gynhesu.
Ar gyfer y Parsel Bresych, roliwch dail y bresych hefo unrhyw lenwad mewn clingfilm. Codi i'w gwres mewn dŵr poeth.
Am y Purée Sbigoglys, blanchiwch y sbigoglys mewn dŵr poeth. Blitsiwch mewn blender hefo menyn, halen a phupur. Tamaid bach o arlleg hefyd.
I wneud y Saws Gwin Coch, cymysgwch unrhyw stoc wedi trychu hefo gwin coch.
Rysáit gan Chris Summers, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?