Hufenwch y menyn a'r siwgr gyda'i gilydd mewn powlen fawr. Cymysgwch yn dda nes bod y cymysgedd wedi troi'n welw.
Wrth gymysgu, ychwanegwch yr wyau fesul un nes eu bod wedi'u hymgorffori'n llawn.
Ychwanegwch y blawd a'r powdr pobi, yna croen y lemwn. Cymysgwch yn dda nes bod y cymysgedd yn llyfn.
Arllwyswch rywfaint o'r cymysgedd i dun torth wedi'i iro, yna ychwanegwch ychydig o'r llus. Parhewch i ychwanegu mwy o gymysgedd, yna mwy o llus nes bod y cymysgedd hanner ffordd i fyny'r tun.
Pobwch am 30 munud nes ei fod wedi coginio.
Eisin lemwn:
Cymysgwch y sudd lemwn a'r siwgr gyda'i gilydd mewn powlen neu jwg.
Unwaith y bydd y gacen yn dod allan o'r popty, arllwyswch yr hylif dros y gacen. Aros iddo oeri.
Llus mewn gin:
Rhowch yr holl gynhwysion mewn padell.
Cynheswch yn ysgafn dros wres canolig nes bod yr hylif yn dod i'r berw. Trowch y gwres i lawr, yna mudferwch am 2 -3 munud.
Rhowch yn yr oergell i oeri.
Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?