Dan ap Geraint
calendar Dydd Gwener, 15 Gorffenaf 2022
Draenogyn y môr (seabass) a lemwn
Cynhwysion
- 2 ffiled o ddraenogyn y môr (seabass)
- 50g menyn
- 25g sifys (chives)
- 25g persli
- 1 lemwn
- 1 sudd lemwn
- 50g caprys (capers)
- 25g brwyniad (anchovies)
Dull
- Cynheswch olew mewn ffrimpan ar dymheredd cymedrol.
- Ychwanegwch sesnin (halen a phupur) i'r pysgod yna gosodwch groen gyntaf mewn i'r pan.
- Ffriwch am 3-4 munud. Unwaith maent wedi lliwio, trowch drosodd, ychwanegwch y menyn yna diffoddwch y gwres.
- Unwaith i'r menyn doddi, tynnwch allan y seabass a'i gosod i un ochr.
- Gosodwch y ffrimpan nol ar y gwres.
- Ychwanegwch bersli, sifys, lemwn, sudd lemwn, caprys a brwyniad. Cynheswch yna'i gosod dros y seabass.
Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio