Gosodwch y saws soy, powdr tsili, 5 sbeis, siwgr, garlleg a sinsir mewn sosban drwm a chymysgwch yn dda i greu past.
Gosodwch y porc mewn y pan yna efo'ch dwylo, rwbiwch y cymysgedd sbeis mewn i'r cig.
Rhowch y clawr ymlaen a choginiwch ar dymheredd isel am 4-5 awr nes mae'r cig yn dyner.
Am y slaw: Cymysgwch yr olew sesame a saws soy at ei gilydd mewn bowlen fawr. Adiwch winwns, moron, tsili a coriander a chymysgwch yn dda. Ychwanegwch sesnin efo'r pupur. Unwaith mae'r porc yn barod, torrwch gyda fforc a gweinwch.
I weini efo saws, mudferwch y sudd o'r cynhwysion mewn pan fawr am 10-15 munud nes iddo droi'n fwy trwchus. Ychwanegwch sesnin.
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.