Mewn padell ffrio tostiwch y cwmin a'r hadau coriander i wella'r blas. Gan ddefnyddio pestl a morter neu brosesydd bwyd malu'r hadau, ychwanegwch y garlleg a'i falu gyda'i gilydd i ffurfio piwrî sbeislyd. Ychwanegwch y sbeisys powdr, paprika, powdr cyri tikka a garam masala a'u cyfuno.
Ychwanegwch y piwrî tomato a dyma'r past cyri wedi'i gwblhau.
Mewn padell ffrio ychwanegwch y winwnsyn wedi'i deisio a'i goginio'n ysgafn i'w feddalu. Ychwanegwch binsiad o halen i dynnu'r lleithder allan. Ar ôl 2-3 munud ychwanegwch y past cyri i'r badell winwnsyn.
Ychwanegwch y cyw iâr wedi'i ddeisio i'r badell a'i frownio yn y cymysgedd sbeis.
Ychwanegu'r tomatos tun, llaeth cnau coco a'r iogwrt i'r badell a dod â'r berw. Gostyngwch y gwres a mudferwch ar wres is am 10 munud.
Blaswch a sesnwch yn ôl yr angen, gorffennwch y cyri gyda llond llaw o ddail coriander wedi'u torri'n ffres.
Gweinwch gyda reis basmati
Rysáit gan Dan Williams, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?