Lisa Fearn
calendar Dydd Gwener, 14 Hydref 2022
Tarten "pobi dall"
Cynhwysion
- 3 ŵy
- 85g siwgr castir
- 175g menyn dihalen
- 100g pecyn almonau
- sudd 1 lemwn
- 1 cas crwst (pastry case)
- aeron
Dull
Tymheredd ffwrn - 220°c | Ffan 200°c | Nwy 7
- Cynheswch y popty i 220°c.
- Gan ddefnyddio crwst o'r rysáit crwst melys, leiniwch dun quiche mawr 28cm gyda chrwst.
- Pobwch y gragen crwst yn ddall mewn popty canolig a gadewch iddo oeri NEU prynwch gas crwst melys.
- Curwch yr wyau a'r siwgr gyda'i gilydd.
- Cymysgwch y sudd lemwn, y menyn wedi'i doddi a'r almonau.
- Arllwyswch y gymysgedd i'r cas crwst.
- Rhowch eich aeron neu ffrwythau eraill yn daclus ar ei ben.
- Rhowch ar waelod y popty am 20 munud.
- Trowch y gwres i lawr i 160°c a choginiwch nes bod y llenwad yn gadarn ac yn euraidd.
- I'w gwneud yn darten bakewell, gorchuddiwch ag eisin gwyn yn rhedeg ac ychwanegu ceirios ar ei ben
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Instagram: @lisafearncooks
Twitter: @lisaannefearn
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio