Michelle Evans-Fecci
calendar Dydd Llun, 17 Hydref 2022
Cacen mewn cwpan
Blas fanila
Cynhwysion
- 25g menyn
- 35g siwgr castir
- fanila
- 45g blawd codi
- 45ml llaeth
- 1 oren
- 1 llwy de jam
- hufen ia/hufen/ffrwyth/'sprinkles' i addurno
Dull
- Toddwch y menyn mewn powlen, ychwanegwch siwgr, fanila, blawd, llaeth a chroen oren a chymysgwch yn dda.
- Arllwyswch i mewn i mwg.
- Microdon am 1-2 funud yn edrych arno bob 30 eiliad.
- Tynnwch ychydig o'r canol allan a'i lenwi â jam.
- Rhowch hufen chwipio a ffrwythau ar ei ben.
Blas siocled
Cynhwysion
- 30g blawd plaen
- 50g siwgr castir
- 15g powdr coco
- 55ml dŵr
- 30ml olew llysiau
- fanila
- 60g darnau siocled
- hufen iâ / hufen
- siocled i addurno
Dull
- Cymysgwch y blawd, siwgr, powdwr coco, dŵr, olew a fanila gyda'i gilydd a chymysgu'n dda. Ychwanegwch y darnau siocled a'i arllwys i mewn i'r mwg.
- Microdon am 1-2 funud yn cofio i edrych arno bob 30 eiliad.
- Addurnwch gyda hufen iâ/hufen ac ychydig o siocled wedi'i gratio.
Rysáit gan Michelle Evans-Fecci, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Instagram: @bakesbymichelle
Twitter: @bakesbymichelle
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio