Torrwch eich pwmpen yn chwarteri, tynnwch yr holl hadau meddal y tu mewn a'r hadau pwmpen (gallwch gadw'r rhain i'w bwyta nes ymlaen neu cadwch nhw ar gyfer yr adar!).
Piliwch a thorrwch y cnawd oren yn giwbiau bach, yn barod ar gyfer coginio.
Piliwch a thorrwch y winwnsyn, y sinsir a'r garlleg a'u ffrio mewn ychydig o fenyn ac olew ar waelod un fawr sosban nes yn feddal.
Piliwch y moron, torrwch yn ddarnau bach a'u hychwanegu at y sosban ynghyd â'ch pwmpen parod.
Ychwanegu tua litr o stoc cyw iâr, digon i orchuddio'r llysiau, a dod ag ef i'r berw.
Ychwanegwch dun o domatos os ydych chi'n hoffi cawl teneuach.
Ar ôl berwi, trowch y gwres i lawr a mudferwch am tua 20 munud, nes bod y llysiau i gyd wedi coginio a meddal.
Gadewch iddo oeri ychydig ac yna ei gymysgu gan ddefnyddio cymysgydd trydan (neu stwnsiwr tatws) nes ei fod yn llyfn.
Sesnwch gyda halen a phupur a chwyrlïwch ychydig o hufen cyn ei weini gyda bara crystiog cynnes!
Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.