Piliwch a thorrwch y tatws a berwch nhw mewn dŵr hallt, draeniwch nhw a'u stwnshio.
Draeniwch yr hylif o'r eog tun a'i stwnshio i bast.
Cyfunwch y tatws a'r eog. Torrwch yr wyau, capers, gherkins a pherlysiau a'u hychwanegu at yr eog.
Ychwanegwch groen y lemwn a'r sudd a chymysgwch yn dda. Ychwanegwch halen a phupur cayenne. Ffurfiwch yn 6 cacen bysgod a llwch gyda'r blawd. Oerwch am o leiaf 30 munud neu dros nos.
Cynhesu'r olew a'r menyn mewn padell ffrio dros wres canolig a ffrio'r cacennau pysgod nes eu bod yn euraidd ar y ddwy ochr.
Gweinwch gyda saws tartar a darn o lemwn.
Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Rhannu’r rysáit
Rhannu’r rysáit trwy:
Copio’r ddolen
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?